L'Étranger

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Nofel Ffrangeg gan Albert Camus yw L'Étranger (1942), sef 'Y Dieithryn'. Mae'n un o nofelau Ffrangeg enwocaf o'r 20fed ganrif sydd ag abswrdiaeth y fodolaeth ddynol mewn bydysawd dihid yn thema ganolog iddi. Mae'n nofel ddirfodaethol er nad oedd Camus yn ystyried ei hun yn ddirfodaethwr fel y cyfryw.

Meursault, y prif gymeriad, yw'r 'Dieithryn', Ffrancwr unig - heb fawr o gysylltiad efo'r gymdeithas o'i gwmpas - sy'n llofruddio dyn Arabaidd lleol, heb wybod yn iawn pam, ar draeth yn Algiers yng nghyfnod rheolaeth Ffrainc ar Algeria. Mae'n cael ei ddal gan yr awdurdodau ac yn cael ei roi ar brawf am lofruddiaeth. Mae'r erlyniad yn ei ddisgrifio fel llofrydd caled heb gywilydd nac edifeirwch am ei weithred; fe'i bernir yn euog ac mae'n aros i gael ei ddienyddio. Yn ei fyfyrdod yn y carchar mae Meursault yn derbyn ei ffawd am nad oes ganddo ddewis amgenach - nid yw hunanladdiad na chred mewn Duw yn opsiynau unwaith mae'n deall abswrdiaeth y byd y mae'n byw ynddo. Mae Meursault yn sylweddoli taw Angau yw'r unig wir derfyn ac nad oes ystyr i ddigwyddiadau a gweithredoedd ym mywyd yr unigolyn ac eithrio yn yr eiliadau pan y'u profir. Lleolir y nofel gyfan yn ninas Algier, cyn yr Ail Ryfel Byd, cyfnod pan fu Camus ei hun yn byw yno.

Gweler hefyd[golygu]

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.