Kyffhäuser

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Kyffhäuser o'r gogledd-ddwyrain

Cadwyn o fynyddoedd yn yr Almaen yw'r Kyffhäuser. Safant i'r de-ddwyrain o fynyddoedd yr Harz, ar y ffîn rhwng taleithiau Thüringen a Sachsen-Anhalt. Mae'r gadwyn tua 19 km o hyd a 7 km o led. Y copa uchaf yw'r Kulpenberg (477 medr).

Ceir cofgolofn i'r ymerawdwr Wilhelm I ar y Kyffhäuser. Yn ôl y chwedl, mae'r ymerawdwr Ffrederic Barbarossa yn cysgu mewn ogof dan y mynyddoedd hyn, i ddeffro rhyw ddydd pan ddaw'r amser penodedig. Bydd yn bryd iddo ddeffro pan na fydd y cigfrain yn hedfan o gwmpas y mynydd bellach. Mae'r chwedl yma yn enghraifft o thema'r Brenin yn y mynydd.

Copaon[golygu]

  1. Kulpenberg (477 m)
  2. Thallebener Berg
  3. Halber Berg
  4. Tannenberg (351 m)
  5. Sittendorfer Köpfe
  6. Mönchenberg
  7. Falkenburg (283 m)
  8. Kelterberg
  9. Kippenhügel
  10. Kautzberge (430 m)
  11. Bärenköpfe
  12. Kälberköpfe
  13. Lindenkopf
  14. Brandberg
  15. Rehkopf
  16. Pfingstberge
  17. Gietenkopf (427 m)
  18. Solberkopf
  19. Schneeberg
  20. Saukopf
  21. Böttcherberg
  22. Großer Herrnkopf
  23. Großer Schweinskopf (303 m)
  24. Kleiner Schweinskopf
  25. Spatenberg
  26. Breiter Berg
  27. Kosakenberg (223 m)
  28. Galgenberg
  29. Klocksberg
  30. Schlachtberg (271 m)
  31. Scheitsköpfe (311 m)
  32. Hüttenberg
  33. Roter Berg
  34. Lückenhügel