Kristen Stewart
| Kristen Stewart | |
|---|---|
Stewart yn Rhagfyr 2007 |
|
| Ganwyd | Ebrill 9, 1990 Los Angeles, California, UDA |
| Enwau eraill | Kristen Jaymes Stewart |
| Yn enwog am | Twilight |
| Galwedigaeth | Actores |
Actores Americanaidd ydy Kristen Jaymes Stewart (ganed 9 Ebrill 1990). Mae'n enwog am actio mewn ffimiau fel Panic Room, Zathura, In the Land of Women, Adventureland, Into the Wild, The Messengers a Twilight.
Bywyd Cynnar [golygu]
Cafodd ei geni a'i magu yn Los Angeles California. Mae ei thad, John Stewart, yn reolwr llwyfan a chynhyrchydd teledu sydd wedi gweithio i Fox. Mae ei mam, Jules Mann-Stewart yn scriptiwr, ac yn wreiddiol o Maroochydore, Queensland, Awstralia. Aeth Kristen i ysgol hyd at flwyddyn saith, cyn parhau gyda'i addysg drwy ohebiaeth. Mae ganddi frawd hyn o'r enw Cameron Stewart.
Gyrfa [golygu]
Dechreuodd yrfa actio Stewart pan oedd yn wyth oed, ar ôl i asiant ei gweld hi'n perfformio mewn sioe Nadolig yn ei hysgol uwchradd. Roedd ei darn cyntaf mewn ffilm yn ran heb linellau