Krampus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Krampus a Sant Nicholas yn ymweld â chartref Fiennaidd ym 1896

Mae Krampus yn greadur anifeilaidd dychmygol sy'n ymddangos mewn llên gwerin Ewropeaidd. Yn ôl llên gwerin, cosba blant sy'n camymddwyn yn ystod cyfnod y Nadolig. Gellir cymharu hyn â Sant Nicholas (neu Siôn Corn), sy'n gwobrwyo plant da ag anrhegion. Dywedir i Krampus ddal plant drwg iawn yn ei sach a'u mynd â nhw i'w loches.

Portreadir Krampus yn greadur anifeilaidd, fel arfer yn gythraulaidd yn ei olwg. Y mae ganddo'i darddiadau cyn-Gristnogol yn llên gwerin Almaenaidd; er hynny, mae ei ddylanwad y tu hwnt i ffiniau'r Almaen. Mae'n draddodiad i ddynion ifainc wisgo fel Krampus yn Awstria, de Bafaria, Bolzano, gogledd Ffriwli, Hwngari, Slofenia a Croatia yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, yn enwedig noswaith pumed mis Rhagfyr (noswyl Dydd Gŵyl Nicholas mewn llawer o eglwysi), a chrwydro'r strydoedd dan godi ofn ar blant gyda chadwynau a chlychau rhydlyd. Gellir gweld Krampus ar gardiau cyfarchion o'r enw Krampuskarten (Cardiau Krampus). Mae llawer o enwau ar Krampus, yn ogystal ag amrywiadau rhanbarthol.