Kiefer Sutherland
Oddi ar Wicipedia
| Kiefer Sutherland | |
|---|---|
Kiefer Sutherland ym mis Tachwedd, 2008 |
|
| Ganwyd | 21 Rhagfyr, 1966 Llundain, |
| Enwau eraill | Kiefer William Frederick Dempsey George Rufus Sutherland |
| Yn enwog am | 24, The Lost Boys |
| Galwedigaeth | Actor |
Mae Kiefer William Frederick Dempsey George Rufus Sutherland (ganed 21 Rhagfyr 1966) yn actor Canadaidd sydd wedi ennill Gwobr Emmy a Golden Globe am ei waith. Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae cymeriad Jack Bauer ar ddrama gyffro FOX, 24.
Fe'i ganwyd yn Llundain, yn fab i'r actor Donald Sutherland a'i wraig, yr actores Shirley Douglas (ac yn wŷr y gwleidydd Tommy Douglas).