Khanty-Mansiysk
Oddi ar Wicipedia
Tref gymharol ddiweddar, a sefydlwyd yn 1930 yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd, sy'n ganolfan weinyddol Okrug Ymreolaethol Khanty-Mansi yn Rwsia yw Khanty-Mansiysk (Rwseg: Ха́нты-Манси́йск). Mae'r dref wedi tyfu'n sylweddol o ganlyniad i ddatblygiad y diwydiant olew. Poblogaeth: 53,953 (2002), cynnydd o 34,462 ar ffigwr 1989. Mae'n gorwedd ar lan Afon Irtysh, 15 km o'i chymer ag Afon Ob.
Mae nifer o'r trigolion yn bobl Ffino-Wgrig (Finno-Ugric).
Khanty-Mansiysk yw lleoliad Olympiad Gwyddbwyll 2010.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Rwseg) (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas a'r Okrug