Khénifra
Oddi ar Wicipedia
Dinas hynafol ym Moroco yw Khénifra (Amazigh Xnifra, Arabeg: خنيفرة). Fe'i lleolir yng ngogledd canolbarth y wlad i'r gorllewin o fynyddoedd yr Atlas Canol. Poblogaeth: 77,000 (cyfrifiad 2004).
Khénifra yw canolfan draddodiadol y Zayanes, un o lwythau Berber Moroco. Mae'n gorwedd tua 160 km o Fès a 300 km o Marrakech. Mae'n brifddinas talaith Khénifra (poblogaeth 523,000) yn rhanbarth Meknès-Tafilalet.
Mae'r afon Oum Er-Rbia ('Mam y Gwanwyn'), un o afonydd mwyaf Moroco, yn tarddu yn yr Atlas Canol tua 40 km o Khénifra ac yn llifo trwy'r ddinas ac wedyn ar gwrs gorllewinol i gyrraedd y Cefnfor Iwerydd ger Azemmour.
Mae mwyafrif y boblogaeth yn bobl Berber ac yn siarad Amazigh/Tamazigh, un o'r ieithoedd Berber.
Dolen allanol [golygu]
- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan y ddinas
- (Amazigh) (Ffrangeg) Gwefan am Khénifra