Kevin Spacey
Oddi ar Wicipedia
| Kevin Spacey | |
|---|---|
Kevin Spacey |
|
| Ganwyd | 26 Gorffennaf, 1959 South Orange, New Jersey, |
| Enwau eraill | Kevin Spacey Fowler |
| Yn enwog am | The Usual Suspects, American Beauty |
| Galwedigaeth | Actor |
Mae Kevin Spacey (ganed Kevin Spacey Fowler, 26 Gorffennaf, 1959) yn actor, cynhyrchydd, sgriptiwr a chyfarwyddwr Americanaidd. Cafodd ei fagu yng Nghaliffornia, a dechreuodd ei yrfa ym myd actio yn ystod y 1980au. Ar ddechrau'r 1990au, derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei waith a derbyniodd ei Wobr yr Academi gyntaf am ei rôl gefnogol yn The Usual Suspects. Derbyniodd ei ail wobr am yr actor gorau yn y ffilm American Beauty (1999). Ers 2003, Spacey yw'r cyfarwyddwr creadigol yn theatr yr Old Vic yn Llundain.