Keryer

Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Kerrier yng Nghernyw

Ardal (District) llywodraeth leol yng Nghernyw oedd Keryer (Saesneg: Kerrier, Cernyweg: Keryer). Hon ydy'r ardal fwyaf deheuol ym Mrhydain Fawr, heb gynnwys Ynysoedd Syllan wrth gwrs.

Lleolir swyddfeydd y cyngor yn Camborne. Mae llefydd arall yn yr ardal yn cynnwys Redruth a Helston. Mae'r ardal yn cynnwys gorynys y Madfall (gorynys Lizard).

Mae'r Ardal wedi ei henwi ar ôl un o "gantrefi" (hundreds) hynafol Cernyw. Ar 1 Ebrill 1974, fe ychwanegwyd ardal Helston, ardal dinesig Camborne-Redruth ac Ardal Cyngor Gwledig Keryer i greu Ardal Keryer. Diddymwyd yr ardal ar 1 Ebrill 2009.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato