Kerli

Oddi ar Wicipedia
Kerli
GanwydKerli Kõiv Edit this on Wikidata
7 Chwefror 1987 Edit this on Wikidata
Elva Edit this on Wikidata
Label recordioIsland Records, Universal Music Group, Ultra Music Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEstonia Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, pianydd, cyfansoddwr, music artist, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, indie pop, trip hop, synthpop, roc amgen, dream pop, roc poblogaidd, industrial music, gothic rock, cerddoriaeth ddawns, cerddoriaeth electronig Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadBjörk Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.kerlimusic.com/ Edit this on Wikidata
llofnod


Cantores o Estonia ydy Kerli Kõiv (ganed 7 Chwefror 1987 yn Elva) sy'n fwy adnabyddus fel Kerli.

Yn 2006, wedi cymryd rhan mewn nifer o gystadlethau canu, arwyddodd Kerli gytundeb gyda Island Records. Def Jam Music Group a rhyddhaodd ei halbwm cyntaf, Love Is Dead, yn 2008 a aeth yn rhif 126 ar Billboard 200 ym Mehefin 2008 ac yn ail ar y Billboard Heatseekers chart y mis wedyn.[1] Rhyddhawyd y senglau "Love Is Dead", "Walking on Air" a "Creepshow" o'r albwm, roedd "Walking on Air" y mwyaf nodedig, yn 75ed ar European Hot 100[2] a chafodd ei defnyddio yn y sioe Americanaidd So You Think You Can Dance?.

Yn 2010, cyfrannodd Kerli i'r albwm Almost Alice - trac sain i'r ffilm Tim Burton, Alice in Wonderland - gyda'r gân "Tea Party". Mae ei sengl Army of Love yn dangos dylanwad cerddoriaeth dawns trydanol. Lansiodd Utopia, yng ngwanwyn 2013, ac aeth yn syth ar 'Billboard 200', yr ail gân ganddi i wneud hynny.[3]

Perfformio yn y Nashville Pride Festival

Yn Nhachwedd 2013 gadawodd Island Records, wedi iddi arwyddo gydag Ultra Music.[4]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Love Is Dead (2008)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Love Is Dead - Kerli". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-22. Cyrchwyd 2011-01-12.
  2. Walking on Air - Kerli
  3. "Kerli Album & Song Chart History". Billboard. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2012. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. "Kerli X Ultra Music!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-23. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: