Kenny Morgans

Oddi ar Wicipedia
Kenny Morgans
Ganwyd16 Mawrth 1939 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 2012 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auManchester United F.C., C.P.D. Tref Y Barri, C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Tref Cwmbrân, C.P.D. Sir Casnewydd Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Pêl-droediwr Cymreig oedd Kenneth Godfrey Morgans (16 Mawrth 193918 Tachwedd 2012).

Fe'i ganwyd yn Abertawe a phan adawodd yr ysgol ym 1955, fe arwyddodd i Manchester United. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Manchester United yn nhymor 1957-58. Roedd yn bresennol yn ystod trychineb awyr Munich ble daeth yn gaeth dan un o olwynion yr awyren am tua phum awr cyn cael ei achub.[1]

Gwnaeth 23 ymddangosiad dros Manchester United cyn gadael y clwb yn 1961.[2] Aeth ymlaen i chwarae dros Abertawe a Newport County cyn ymddeol yn 1967.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Marw un o Gymry Munich. Golwg360 (19 Tachwedd 2012).
  2.  Un o oroeswyr Trychineb Munich, Kenny Morgans, wedi marw. BBC (19 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2012.



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.