Kenny Jackett

Oddi ar Wicipedia
Kenny Jackett
Manylion Personol
Enw llawn Kenneth Francis Jackett
Dyddiad geni (1962-01-05) 5 Ionawr 1962 (62 oed)
Man geni Watford, Llundain, Baner Lloegr Lloegr
Manylion Clwb
Clwb Presennol Millwall (rheolwr)
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1980-1990 Watford 337 (25)
Tîm Cenedlaethol
1983-1988 Cymru 31 (0)
Clybiau a reolwyd
1996-1997
2004-2007
2007-
Watford
Dinas Abertawe
Millwall

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

Hyfforddwr a chyn-chwaraewr pêl-droed yw Kenneth Francis "Kenny" Jackett (ganwyd 5 Ionawr 1962). Cafodd ei eni yn Watford, Lloegr. Chwaraeodd dros Gymru am fod ei dad wedi'i eni yno. Bu'n chwarae i Watford trwy gydol ei yrfa, nes i'w yrfa ddod i ben o ganlyniad i anaf.

Ei yrfa fel chwaraewr[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd fel amddiffynnwr ac yng nghanol y cae. Llwyddodd Jackett i fod yn rhan o dîm cyntaf Watford ar ddiwedd tymor 1979-80. Yn ystod y 1980au, helpodd y tîm i ddod yn ail yn yr hen Adran Gyntaf, yn ogystal ag ymddangos yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA ym 1984. Cafodd 31 cap am chwarae dros Gymru.

Daeth ei yrfa i ben yn annisgwyl, pan achosodd anaf difrifol i'w benglin iddo orfod ymddeol ym 1990, pan oedd ond yn 28 oed. Pe na bai wedi ei anafu, mae'n debygol y byddai wedi cipio'r teitl am y chwaraewr a chwaraeodd fwyaf erioed i dîm Watford - teitl sydd gan Luther Blissett ar hyn o bryd.

Ei yrfa fel rheolwr[golygu | golygu cod]

Yn dilyn amser gyda thîm rheoli Watford a QPR fe'i benodwyd yn rheolwr Dinas Abertawe yn 2004. Ar ôl tair blynedd, dewisodd Jackett adael y clwb. Ers 2007 mae wedi bod yn rheolwr Millwall.

Ystadegau fel rheolwr[golygu | golygu cod]

Diweddarwyd diwethaf 30 Mai 2010

Tîm Gwlad O Tan Record
Gêm Ennill Colli Cyfartal Ennill %
Watford Baner Lloegr Mehefin 1996 Mehefin 1997 57 22 19 16 38.6
Dinas Abertawe Baner Cymru 5 Ebrill 2004 15 Chwefror 2007 163 75 48 48 46.01
Millwall Baner Lloegr 6 Tachwedd 2007 Presennol 149 72 44 33 48.32