Kenneth Williams

Oddi ar Wicipedia
Kenneth Williams
GanwydKenneth Charles Williams Edit this on Wikidata
22 Chwefror 1926 Edit this on Wikidata
Islington Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 1988 Edit this on Wikidata
o gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
Camden Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, digrifwr, dyddiadurwr, ysgrifennwr, undebwr llafur, cyflwynydd radio, actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor comedi Seisnig oedd Kenneth Charles Williams (22 Chwefror 192615 Ebrill 1988), a ymddangosodd mewn 26 o ffilmiau a alwyd yn "ffilmiau Carry On" yn ogystal â chomedïau radio gyda Tony Hancock a Kenneth Horne. Roedd hefyd yn ddigrifwr ar ei draed a oedd yn enwog iawn am ei ffraethineb a'i ystumiau merchetaidd.

Ei fywyd a'i waith[golygu | golygu cod]

Ganwyd Kenneth Williams ym 1926 yn Stryd Bingfield, King's Cross, Llundain. Yn fab i farbwr o'r enw Charles Williams, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Lyulph Stanley. Roedd ganddo berthynas arbennig o dda gyda'i fam fywiog, Louisa ("Lou") ond perthynas tra gwahanaol oedd ganddo gyda'i dad a oedd yn ei dŷb ef yn ddiflas a hunanol. Roedd perthynas Williams gyda'i reini'n allweddol i ddatblygiad ei bersonoliaeth. Daeth Williams yn brentis i wneuthuriwr mapiau ac ymunodd â'r fyddin pan oedd yn 18 oed dan orfodaeth filwrol. Roedd yn rhan o adran arolwg y Peiriannwyr Brenhinol ym Mumbai pan berfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf, ynghyd ag Adloniant Gwasanaethau Cyfun, Stanley Baker a Peter Nichols.

Y Perfformiwr Comig[golygu | golygu cod]

Ar ôl y rhyfel, dechreuodd gyrfa Williams yn y theatr, ond ychydig iawn o rannau a weddai i'r modd y cyflwynai'r sgript. Teimlodd siom am fethu bod yn actor dramatig difrifol, ond cafodd gyfle i serennu fel perfformiwr comig. Fe'i gwelwyd yn chwarae'r Dauphin yn St.Joan (George Bernard Shaw) ym 1954 gan y cynhyrchydd radio Dennis Main Wilson, a oedd yn castio Hancock's Half Hour a bu Williams yn gweithio ar y rhaglen tan y gorffennodd bum mlynedd yn ddiweddarach. Daeth ei lais trwynol a oedd yn gymysgedd o camp ac acen cockney yn hynod boblogaidd gyda'r gwrandawyr a pharhaodd Williams i fod yn boblogaidd gyda'r cyhoedd am flynyddoedd.

Pan benderfynodd Hancock ymbellhau o'r hyn a ystyriai ef fel gimmicks a lleisiau gwirion, dechreuodd Williams ymwneud llai â'r rhaglen. Wrth iddo syrffedu â'i ymddangosiadau llai rheolaidd, ymunodd Williams â Kenneth Horne yn Beyond Our Ken (1958–1964), a'i olynydd, Round the Horne (1965–1968). Yn Round the Horne, roedd rhannau Williams yn cynnwys Rambling Syd Rumpo, y canwr gwerin egsentrig; The Amazing Proudbasket, y bêl canon dynol; J. Peasemold Gruntfuttock, yr anadlwr dwfn ar y ffôn a'r hen ddyn brwnt; a Sandy o'r cwpwl camp, Julian a Sandy (chwaraewyd Julian gan Hugh Paddick). Roeddent yn enwog am eu double entendres a'i ymadroddion bratiog hoyw a elwir yn Polari.

Ymddangosodd Williams yn sioeau'r West End hefyd gan gynnwys Share My Lettuce gyda Maggie Smith a ysgrifennwyd gan Bamber Gascoigne. Bu hefyd yng nghast Pieces of Eight, a oedd yn cynnwys deunydd wrth Peter Cook a oedd ar y pryd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd y sioe'n cynnwys sgetsys gan Cook megis One Leg Too Few a fyddai'n datblygu i fod yn glasuron y dyfodol. Sioe olaf Williams oedd One over the Eight, gyda Sheila Hancock. yn ddiweddarach, perfformiodd Williams gyda Jennie Linden yn My Fat Friend ym 1972. Perfformiodd gyda Ingrid Bergman hefyd yn y sioe lwyfan o Captain Brassbound's Conversion gan George Bernard Shaw ym 1971.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.