Kenneth Grahame
Oddi ar Wicipedia
Awdur Albanaidd oedd Kenneth Grahame (8 Mawrth, 1859 – 6 Gorffennaf 1932), a ysgrifennai ffuglen a ffantasi ar gyfer plant yn bennaf er fod oedolion yn ei fwynhau llawn cymaint os nad yn fwy. Mae'n enwog fel awdur The Wind in the Willows (1908), un o glasuron llenyddiaeth plant. Ysgrifennodd The Reluctant Dragon yn ogystal, a gafodd ei addasu'n ffilm Disney yn ddiweddarach.
Llyfryddiaeth[golygu]
- Pagan Papers (1893)
- The Golden Age (1895)
- Dream Days (1898)
- gan gynnwys The Reluctant Dragon (1898)
- The Headswoman (1898)
- The Wind in the Willows (1908)