Kelsey Grammer
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Kelsey Grammar)
| Kelsey Grammar | |
|---|---|
Grammer yn Efrog Newydd, 2006 |
|
| Ganwyd | 21 Chwefror, 1955 Sant Thomas, Ynysoedd yr Wyryf, UDA |
| Yn enwog am | Frasier, Cheers |
| Galwedigaeth | Actor, Cyfarwyddwr, cynhyrchydd, ysgrifennwr, |
Mae Allen Kelsey Grammer (ganed 21 Chwefror, 1955), sy'n cael ei adnabod orau fel Kelsey Grammer, yn actor Americanaidd sy'n enwog am ei bortread o'r seiciatrydd Dr. Frasier Crane am ddau ddegawd yng nghomedïau sefyllfa NBC Cheers (naw mlynedd) a Frasier (unarddeg mlynedd). Ef hefyd ddarparodd y llais ar gyfer Sideshow Bob ar gyfer animeiddiedig FOX, The Simpsons. Fe'i enwebwyd am Wobrau Emmy am chwarae'r cymeriad ar dair gomedi sefyllfa wahanol (y trydydd oedd Wing). Mae ef hefyd wedi gweithio fel cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr, ysgrifennwr ac actor lleisiol.