Kathmandu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kathmandu

Kathmandu (Nepaleg: काठमाडौं, काठमान्डु) yw prifddinas Nepal a'r ddinas fwyaf yn y wlad. Gelwir trigolion gwreiddiol Kathmandu y Newar, sy'n siarad Nepal thasa, iaith sydd hefyd yn cael ei siarad gan lawer o drigolion eraill Kathmandu.

Saif y ddinas yn Nyffryn Kathmandu ar lannau Afon Bagmati, ar safle tua 4,265 troedfedd (1,300 m) o uchder. Mae'r boblogaeth tua 1.5 miliwn.

Ymhlith prif adeiladau'r ddinas mae teml Hindwaidd Pashupatinath a dau stwpa Bwdhaidd, Swayambhunath a Boudhanath. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Tribhuvan rhyw 6 km o ganol y ddinas.

Flag of Nepal.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Nepal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.