Karl Jenkins
| Karl Jenkins | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Ganwyd |
Chwefror 17, 1944 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | Jazz / Clasurol |
| Gwefan | karljenkins.com |
Cyfansoddwr Cymreig ydy Karl Jenkins OBE (ganwyd 17 Chwefror 1944, Penclawdd, Penrhyn Gŵyr).
Roedd ei dad yn athro yn yr ysgol leol ac yn organydd a meistr y côr ym Mhenclawdd. Ganddo ef y cafodd Karl Jenkins ei hyfforddiant cerddorol cyntaf. Aeth i Ysgol Ramadeg Tregwyr, ac wedyn i Brifysgol Cymru, Caerdydd, lle cyfarfu a'i wraig a'r Academi Gerdd Frenhinol.
Am y rhan fwyaf o'i yrfa gynnar, adnabyddwyd ef fel cerddor jazz a jazz-roc. Bu'n chwarae amryw o offerynnau gan gynnwys sacsoffon soprano a baritôn, allweddellau ac obo. Ymunodd â grŵp o gyfansoddwr jazz Graham Collier, ac yn ddiweddarach cyd-sefydlodd y band Nucleus a enillodd y wobr gyntaf yn y Montreux Jazz Festival yn 1970. Bu'n chwarae yng Nghlwb Ronnie Scott a chwarae gyda'r band Soft Machineyn y 70au.
Cyfansoddodd gerddoriaeth i nifer o hysbysebion gan gynnwys Levi, British Airways, Renault, Volvo a Pepsi.
Erbyn hyn mae'n fwy adnabyddus fel cyfansoddwr clasurol gan dderbyn comisiynau gan y Bale Brenhinol,, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Bryn Terfel, ac Evelyn Glennie.