Kampala
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas Wganda yn nwyrain Affrica yw Kampala. Hi yw dinas fwyaf Wganda, gyda phoblogaeth o 1,208,544 yn 2002.
Tyfodd y ddinas fel prifddinas teyrnas Buganda. Adeiladwyd y ddinas ar nifer o fryniau, saith yn draddodiadol. "Kampala", sef "bryn yr Impala" oedd enw un o'r rhain yn wreiddiol. Ceir Prifysgol Makerere, un o brifysgolion mwyaf adnabyddus dwyrain Affrica, yma.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu]
- Eglwys gadeiriol
- Lubiri
- Mosg Kibuli
- Teml Bahá'í
- Ysbyty Nsambya
Enwogion[golygu]
- Richard Gibson (g. 1954), actor
- Cornelius Boza Edwards (g. 1956), paffiwr