Kamehameha I

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kamehameha I, brenin Ynysoedd Hawaii

Sefydlwr Teyrnas Hawaii oedd Kamehameha I, a elwir hefyd yn Kamehameha Fawr (1 Mai, 1758? - 8 Mai, 1819). Goresgynodd Ynysoedd Hawaii ar ddiwedd y 18fed ganrif a sefydlodd Deyrnas Hawaiʻi yn ffurfiol yn 1810. Trwy ddilyn polisi o ymgynghreirio â grymoedd gwladychol mawr y Cefnfor Tawel, llwyddodd Kamehameha i gadw annibyniaeth Hawaiʻi yn ystod ei deyrnasiad. Cofir Kamehameha am y Mamalahoe Kanawai, "Deddf y Padl Deilliog", sy'n amddiffyn hawliau sifiliaid adeg rhyfel. Enw llawn Kamehameha yn yr Hawaieg yw Kalani Paiʻea Wohi o Kaleikini Kealiʻikui Kamehameha o ʻIolani i Kaiwikapu kaui Ka Liholiho Kūnuiākea. Cafodd ei olynu gan y brenin Kamehameha II, a deyrnasodd o 1819 hyd 1824.


Wiki crown-template.png Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato