Kalâat el-Andalous

Oddi ar Wicipedia
Kalâat el-Andalous
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAriana Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau37.0625°N 10.1183°E Edit this on Wikidata
Cod post2022 Edit this on Wikidata
Map

Tref a chymuned yng ngogledd Tiwnisia yw Kalâat el-Andalous. Fe'i lleolir yn nhalaith Ariana tua 45 km i'r gogledd o ddinas Tiwnis, prifddinas Tiwnisia. Poblogaeth y gymuned: 15,313 (2004).

Cyfeiria el-Andalous at y ffaith fod nifer o ffoaduriaid Mwslim o al-Andalus (de Sbaen), sef y Morisgiaid, wedi ffoi yma yn yr 17g. Gwelir eu hôl ym mhaensaernïaeth y dref, e.e. Mosg Cordoba, a enwir ar ôl Cordoba yn Andalucía. Ystyr enw'r dref yw "Dinas gaerog yr Andalwsiaid".

Llifa Afon Medjerda heibio i orllewin y ddinas. Mae'r tir yn ffrwythlon o'r herwydd ac amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant.

Yng nghyffiniau Kalâat el-Andalous ceir safle dinas hynafol Utica, a sefydlwyd gan y Ffeniciaid (gweler hefyd Carthago).

Mosg Cordoba, Kalâat el-Andalous
Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.