Kêr-Ys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Brenin Gralon yn ffoi, gan E. V. Luminais, 1884 (Musée des Beaux-Arts, Quimper)

Dinas chwedlonol a safai ym mae Douarnenez yn Llydaw oedd Kêr-Ys (Llydaweg: 'Caer Ys'; hefyd Is neu Ys). Yn ôl y chwedl, fe'i codwyd gan y brenin Gralon (neu Gradlon yn Ffrangeg a llyfrau Saesneg), Brenin Cornouaille, i'w merch Dahut. Mae'n perthyn i ddosbarth rhyngwladol o chwedlau gwerin am diroedd boddiedig, fel chwedl Cantre'r Gwaelod yng Nghymru. Mae rhai o'r manylion yn y chwedl yn hynod o debyg i'r chwedl Gymreig ond bod y chwedl Lydewig wedi'i Christioneiddio cryn dipyn.

Yn ôl y chwedl, adeiladwyd Kêr-Ys ar dir a oedd yn is na lefel y môr, gyda morglawdd i'w amddiffyn. Gan y Brenin Gralon ei hun oedd yr unig oriadau i'r pyrth ar y morglawdd, ond cafodd ei ferch Dahut ei themtio gan y Diafol i'w dwyn a'u rhoi iddo. Yna agorodd y Diafol y pyrth a boddwyd y ddinas. Mewn rhai ferisynau o'r chwedl mae Duw yn anfon y Diafol i gosbi trigolion annuwiol y ddinas am eu pechodau. Ond yn ôl fersiynau eraill, cynharach efalli, mae Dahut yn dwyn y goriadau er mwyn boddloni ei chariad neu i'w adael i mewn i'r ddinas. Dim ond y brenin Gralon sy'n dianc o'r dinistr. Boddwyd pawb arall. Yn ôl traddodiad, gellir clywed clychau Kêr-Ys yn canu o hyd (fel "Clychau Aberdyfi") i rybuddio pobl ar y tir fod tywydd garw yn dod. Ffoes Gralon i'r tir mawr a sefydlu Quimper, Finistère; codwyd cerflun yn ei ddangos ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig o flaen eglwys gadeiriol Saint Corentin.

Ceir cyfeiriadau at y chwedl yng ngwaith y brydyddes ganoloesl Marie de France (fl. ail hanner y 12fed ganrif). Yn 1839 cyhoeddodd Théodore Hersart de la Villemarqué ei gyfrol enwog, y Barzaz Breiz, sy'n cynnwys fersiwn o chwedl Kêr-Ys ar gân.

Gweler hefyd[golygu]