Kébili
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y ddinas yw hon. Am y dalaith gweler Kebili (talaith).
Dinas yn Tunisia yw Kébili, sy'n brifddinas talaith Kebili. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain canolbarth y wlad, tua hanner ffordd rhwng Gabès ar arfordir y Môr Canoldir, i'r dwyrain a'r ffin ag Algeria i'r gorllewin.
Gorwedd y ddinas mewn gwerddon yn yr anialdir creigiog. I'r gorllewin ceir Chott el-Jerid.