Justin Haythe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Justin Haythe (ganed 16 Medi, 1973) yn nofelydd, sgriptiwr ac ysgrifennydd straeon byrion Americanaidd.

Cafodd ei eni yn Llundain a mynychodd Ysgol Americanaidd Llundain a Choleg Middlebury. Enwebwyd ei nofel gyntaf, The Honeymoon am Wobr Booker yn 2004. Ef ysgrifennodd The Clearing hefyd, a gyfarwyddwyd gan Pieter Jan Brugge, ac a serennodd Helen Mirren a Robert Redford. Rhyddhawyd ei addasiad o Revolutionary Road ym mis Rhagfyr 2008. Mae ef hefyd yn ysgrifennydd ac uwch-gynhyrchydd Snitch, sydd yn y cyfnod ôl-gynhyrchu.

Mae ef bellach yn byw yn Ninas Efrog Newydd, UDA.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.