Julie Fowlis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Julie Fowlis
Julie-Fowlis.jpg
Fowlis ar y llwyfan yn Analog, Ringsend Dublin, Gorffennaf 2008
Gwybodaeth gefndirol
Ganwyd 1979
Man geni Uibhist a Tuath, Ynysoedd Allanol Heledd, yr Alban
Cerddoriaeth Cerddoriaeth Geltaidd
Gwerin
Jas
Galwedigaeth(au) Cerddor
Darlledwraig
Offeryn(au) cerdd Llais, chwiban, Pibgod yr Ucheldir Fawr, pibfach Albanaidd, ffliwt, obo, cor anglais, acordion
Blynyddoedd 2005–presennol
Label(i) recordio Machair Records
Shoeshine Records
Macmeanmna
Cysylltiedig Dòchas
Gwefan Gwefan swyddogol

Mae Julie Fowlis (ganwyd ym 1979) yn gantores werin Albanaidd ac amlofferynnwr sy'n canu yng Ngaeleg yr Alban yn bennaf.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Gyrfa gerddorol[golygu]

Cafodd Fowlis ei magu yn Uibhist a Tuath, ynys fach ar Ynysoedd Allanol Heledd, mewn cymuned Gaeleg, ac mae wedi bod yn canu, canu'r pibau a dawnsio ers iddi fod yn blentyn.[1][2]

Mae hi'n perthyn i chwechawd Yr Alban, Dòchas,[3] a enillodd y wobr o Best Newcomer yn y Scots Trad Music Awards yn 2004, lle cafodd Julie ei henwebu ei hun ar gyfer Best Gaelic Singer. Yn 2005, rhyddhaodd Fowlis ei halbwm cyntaf ar ei hun Mar a Tha Mo Chridhe (Fel ydyw fy nghalon). Cafodd yr albwm ei gyhoeddi gan Iain MacDonald a Fowlis, ac enillodd Julie ei adnabyddiad rhyngwladol yn syth ar ei ôl. Y flwyddyn mwyaf brysur iddi yn ei gyrfa, gan wnaeth hi hefyd gyhoeddi albwm newydd gyda 'Dòchas'. Mae Fowlis wedi teithio dros y byd gyda hwy a hefyd ar ei hun gyda'i grŵp ei hun.

Cyhoeddwyd ei ail albwm Cuilidh ym mis Mawrth 2007. Gwerthodd hyn yn dda iawn yn y siartiau o gerddoriaeth draddodiadol.[4][5] Casgliad o ganeuon o Uibhist a Tuath ydyw ei halbwm. Mae'i gŵr, Éamon Doorley yn canu'r ffidil ar yr albwm. Mae ef hefyd yn aelod o'r grŵp traddodiadol Gwyddelig, Danú.

Enillodd Fowlis y wobr Horizon yn y BBC Radio 2 Folk Awards yn 2006,[3] y Folk Singer of The Year yn yr un gwobrau yn 2008[2] a chafodd ei henwebiad i'r wobr o Folk Singer of the Year yn 2007.[6] 'Roedd hi ar raglen o Later With Jools Holland ar BBC Two ar 25 Mai 2007, a chanodd Hùg air Bhonaid Mhòir ar y sioe. Cefnogwyr enwog Fowlis yn cynnwys Björk, Ricky Gervais a Phil Selway o Radiohead.[3]

Yn 2008, recordiodd Julie albwm gyda'i ffrindiau Muireann Nic Amhlaoibh, Ross Martin a'i gŵr Éamonn Doorley. Cyhoeddwyd yr albwm, o'r enw 'Dual' ar fis Hydref 2008, o dan 'Machair Records' ac mae hi ar gael o siopau gwefannau swyddogol yr artistiaid. Mae Fowlis hefyd wedi bod yn teithio dros yr Alban, Iwerddon, canoldiroedd Ewrop ac America, a dawnsiodd ei halbymau tra oedd hi ar daith. Recordiodd Fowlis fersiwn o gân the Beatles, 'Blackbird' ar gyfer Mojo Magazine i ddathlu pen-blwydd 'The White Album'. Cafodd y gân, sy'n cael ei berfformio yng Ngaeleg yr Alban ei chyhoeddi fel sengl i'w lawrlwytho o'i gwefan ei hun ym mis Hydref o 2008.

Ar 24 Ebrill 2009 trwy ei rhestr postio ar-lein, cyhoeddwyd Fowlis y byddai'n dechrau recordio ei thrydydd albwm ym mis Mai o'r un flwyddyn. Buasai'n canu rhai o'i chaneuon o'r prosiect ar ei thaith o Loegr ym Mai o 2009.

Gyrfa ddarlledu[golygu]

Yn 2008, wrthi'n dilyn rhannau fel gwestai ar raglen draddodiadol gerddorol BBC Radio Scotland, sef Travelling Folk, a rhaglen ryngwladol cerddoriaeth Global Gathering, dechreuodd Julie gyflwyno rhaglen cerddoriaeth gwerin pob nos Iau, Fowlis and Folk.[7]

Disgograffi[golygu]

Recordiau unigol[golygu]

Albymau[golygu]

Senglau[golygu]

Recordiau eraill[golygu]

'Dual'[golygu]

Gyda 'Dòchas'[golygu]

  • Dòchas (2002)
  • An Darna Umhail (2005)
  • TBC (2009)

Fel gwestai ar recordiau eraill[golygu]

  • Evolving Tradition 3 - Cantorion Amrywiol (2003)
  • Best in Show - Cantorion Amrywiol (2003)
  • Ceòlmhor Ostaig - Cantorion Amrywiol (2004)
  • Braighe Loch Iall - Rachel Walker (2004)
  • When All is Said and Done - Danú (2005)
  • Orain nan Rosach - Fiona Mackenzie (2006)
  • Fáinne An Lae : Daybreak - Muireann Nic Amhlaoibh (2006)
  • Òg-Mhadainn Shamhraidh - Kathleen MacInnes (2006)
  • Everything You See - Runrig (2007)
  • An Cailín Rua - Kathleen Boyle (2008)
  • Transatlantic Sessions 3 Vol. 1 (CD) - Cantorion Amrywiol (2008)
  • Transatlantic Sessions 3 Vol. 2 (CD) - Cantorion Amrywiol (2008)
  • Transatlantic Sessions 3 (DVD) - Cantorion Amrywiol (2008)

Gwobrau ac enwebiadau[golygu]

Gwobrau a enillodd[golygu]

  • BBC Radio 2 Folk Music Awards 2008 - Folk Singer Of The Year
  • Scots Trad Music Awards 2008 - Album Of The Year (Cuilidh)
  • Scots Trad Music Awards 2008 - Gaelic Singer Of The Year
  • Best Folk Band (Dòchas) Scots Trad Music Awards 2006
  • BBC Radio 2 Horizon Award 2006
  • Gaelic Singer of the Year Scots Trad Music Awards 2005
  • Best Up and Coming Artist (Dòchas) Scots Trad Music Awards 2004
  • Traditional Singer of the Year Pan Celtic Nations Festival 2003
  • La Trophe La Bolee de Corrigans – Festival Interceltique de Lorient, 2000

Enwebiadau[golygu]

  • BBC Radio 2 Folk Singer of the Year 2007
  • Gaelic Singer of the Year Scots Trad Music Awards 2004

Ffynonellau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Tudalennau swyddogol[golygu]

Tudalennau answyddogol[golygu]