Julia Gillard
Oddi ar Wicipedia
Mae Julia Eileen Gillard (ganwyd 29 Medi, 1961) yn wleidydd Awstralaidd sy'n aelod o Blaid Lafur Awstralia. Ar 24 Mehefin 2010, daeth yn Brif Weinidog Awstralia. Cyn hynny, bu'n Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur.
Cafodd ei geni yn y Barri, yng Nghymru, ym 1961, ond symudodd ei theulu i Adelaide, De Awstralia ym 1966.
Mae hi'n weriniaethwraig o argyhoeddiad. Yn Awst 2010, yn ystod yr ymgyrch etholiad cyffredinol, cyhoeddodd y dylai Awstralia droi'n weriniaeth ar ôl marwolaeth y frenhines Elisabeth II o'r Deyrnas Unedig.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Australia's Gillard backs republic after Queen's death, Newyddion y BBC, 17 Awst 2010.