Juba, De Sudan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o Juba o'r awyr.
Pont Juba.

Prifddinas De Sudan yw Juba, sy'n brifddinas talaith Equatoria Canol hefyd. Fe'i lleolir yn ne'r wlad ar lan Afon Nîl Wen. Yn 2005 roedd ei phoblogaeth swyddogol yn 163,442, ond amcangyfrir fod y gwir ffigwr yn uwch, sef tua 250,000 neu ragor (mae'r ffigyrau'n amrywio'n sylweddol gyda rhai yn honni bod dros filiwn o bobl yn byw yn y ddinas erbyn hyn).

Mae'r ddinas yn tyfu'n gyflym wrth i bobl o gefn gwlad yr ardal gyrraedd i geisio gwaith yn y diwydiant olew ac hefyd fel ffoadurion o'r rhyfel yn Ne Sudan ymhellach i'r gogledd.

Gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Juba.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of South Sudan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Sudan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.