Juan Domingo Perón

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Juan Perón

Etholwyd Juan Domingo Perón 8 Hydref 18951 Gorffennaf 1974) yn Arlywydd yr Ariannin dair gwaith. Ef oedd sylfaenydd Peroniaeth a'r blaid sy'n arddel yr ideoleg honno, y Partido Justicialista.

Ganed Perón yn Lobos, Talaith Buenos Aires. Addysgwyd ef yn ninas Buenos Aires, ac aeth i'r Coleg Milwrol yn 1910, gan raddio yn 1916. Ei wraig gyntaf oedd Aurelia Tizón, a fu farw o gancr. Ail-briododd a'r actores María Eva Duarte (19191952) ar 22 Hydref 1945. Roedd Evita fel y gelwid Eva Perón yn cydweithio'n agos a'i gŵr yn wleidyddol, ac yn gefnogol i hawliau i ferched a diwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol câi ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad.

Etholwyd ef yn Arlywydd am y tro cyntaf ar 24 Chwefror 1946. Ar ddiwedd ei dymor cyntaf, ail-etholwyd ef yn etholiad 11 Tachwedd 1951. Bu farw Eva Perón ar 26 Gorffennaf 1952. Y tro hwn, ni allodd Perón gwblhau ei dymor, oherwydd diswyddwyd ef yn dilyn coup milwrol ar 16 Medi 1955. Bu mewn alltudiaeth am 18 mlynedd, nes dychwelyd a chael ei ethol yn Arlywydd am y trydydd tro ar 23 Medi 1973.

Bu farw yn ystod ei dymor fel Arlywydd ar 1 Gorffennaf 1974, ac olynwyd ef gan ei weddw, ei drydedd wraig María Estela Martínez de Perón, oedd wedi ei hethol fel is-arlywydd yn 1973.