Journal of Welsh Religious History
Oddi ar Wicipedia
Cyhoeddir Cylchgrawn Hanes Crefydd Cymru gan Wasg Prifysgol Cymru ar ran Canolfan Uwchefrydiau Crefydd yng Nghymru, Prifysgol Bangor, a chyn hynny Cymdeithas Hanes Crefydd Cymru. Cylchgrawn Saesneg yn cynnwys erthyglau academaidd, adolygiadau a newyddion yn ymwneud â hanes Cristionogaeth yng Nghymru yw’r Journal of Welsh Religious History. Cyhoeddwyd dwy gyfres: y gyfres gyntaf, Cyfrolau 1 (1993) i 8 (2000); cyfres newydd Cyfrol (2001) i Cyfrol 4 (2004). Mae'r cylchgrawn yn barhad o'r Journal of Welsh ecclesiastical history.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.