Josie d'Arby

Oddi ar Wicipedia
Josie d'Arby
Ganwyd3 Hydref 1972 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.josiedarby.com/ Edit this on Wikidata

Mae Josie d’Arby (ganwyd Josephine Collins 3 Hydref 1972) yn actor, awdur, cyfarwyddwr, a chyflwynydd teledu Cymreig o Gasnewydd, Gwent. Mae hi wedi cyflwyno nifer o sioeau teledu poblogaidd. Ym 1999 hi oedd y fenyw ieuengaf erioed i gyflwyno sioe sgwrsio yng Ngwledydd Prydain, sef Josie ar Channel 5.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd Josie d'Arby ei eni a'i magu yng Nghasnewydd. Yn ei harddegau mynychodd ysgol drama Theatre Anna Scher yn Llundain cyn ennill lle yn RADA[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd gyrfa cyflwyno d'Arby yn ystod ei chyfnod fel myfyriwr yn RADA. Yn y 1990au cynnar, bu’n cyflwyno’r rhaglen SMart ar sianel Children’s BBC, a’i sioe ei hun, Josie, ar Sianel 5. Mae hi wedi cyflwyno nifer o raglenni proffil uchel gan gynnwys The Bigger Breakfast (ategiad i raglen The Big Breakfast) a Top of the Pops. Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth fwy clasurol megis BBC Young Musician of the Year, BBC Canwr y Byd Caerdydd a Choir of the Year[3].

Ei rôl actio ddramatig amlwg gyntaf oedd fel WPC Jodie Finn, yn nrama gyfres y BBC, Merseybeat. Yn 2005, bu’n chware rhan Peally Maghti, un o gyflwynwyr y gyfres ddychanol Look Around You, a oedd yn dychanu rhaglenni teledu gwyddoniaeth o’r 1980au.

Mae wedi ymddangos ar raglen gomedi’r BBC Miranda.

Mae hi wedi gweithio ar y radio, fel cyd-gyflwynydd The Steve Wright Show ar BBC Radio 2 ac mae wedi cyflwyno nifer o raglenni dogfen i BBC Radio 4.

Yn Nhachwedd 2011, ysgrifennodd a chyfarwyddodd y ffilm comedi A Magpie in the Mirror.

Enillodd d'Arby gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei gwaith wrth gyflwyno rhaglen materion cyfoes ar gyfer ei chyfraniad i raglen y BBC Inside Out West.

Yn 2011 derbyniodd yr her o geisio dysgu Cymraeg mewn wythnos ar gyfer raglen S4C Cariad@iaith gan ddod yn ail yn y gystadleuaeth[4].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Josie d'Arby adalwyd 25 Ebrill 2017
  2. IDBM Josie d’Arby adalwyd 25 Ebrill 2017
  3. Songs of Praise - Josie d'Arby adalwyd 25 Ebrill 2017
  4. Actores yn fuddugol am ddysgu iaith adalwyd 25 Ebrill 2017