Joshua Hughes

Oddi ar Wicipedia
Joshua Hughes
Ganwyd7 Hydref 1807 Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1889 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
PlantThomas McKenny Hughes, Pritchard Hughes Edit this on Wikidata

Roedd Joshua Hughes (7 Hydref 180721 Ionawr 1889) yn Esgob Llanelwy o 1870 hyd ei farwolaeth.

Ganed Hughes yn Nanhyfer, Sir Benfro ac addysgwyd ef yn ysgolion gramadeg Aberteifi ac Ystradmeurig, yna aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr. Wedi iddo gael ei ordeinio, bu'n offeiriad yn Aberystwyth ac Abergwili.

Yn 1870, roedd W. E. Gladstone yn chwilio am Esgob newydd i Lanelwy, ac yn awyddus i sicrhau fod yr esgob newydd ym medru siarad Cymraeg. Ar gyngor Connop Thirlwall, dewiswyd Hughes. Ef oedd y Cymro cyntaf i fod yn Esgob Llanelwy ers 1727. Gwnaeth lawer i hybu'r iaith Gymraeg yn yr eglwys, gan sicrhau fod offeiriaid oedd yn medru Cymraeg yn cael eui hapwyntio i blwyfi Cymraeg eu hiaith. Roedd yn gefnogwr brwd i'r symudiad i sefydlu Prifysgol Cymru.

Yn Awst 1888 tarawyd ef gan barlys tra ar ei wyliau yn Crieff yn yr Alban. Bu farw ar 21 Ionawr y flwyddyn ddilynol, a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Yn ddiweddarach daeth un o'i feibion, Joshua Pritchard Hughes, yn Esgob Llandaf.