Joseph Fourier

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jean Baptiste Joseph Fourier

Mathemategydd a ffisegwr Ffrengig oedd Jean Baptiste Joseph Fourier (21 Mawrth 1768 – 16 Mai 1830). Mae'n fwyaf adnabyddus am Gyfres Fourier a'u defnydd ar gyfer dadansoddi lledaeniad gwres. Ystyrir ef hefyd fel darganfyddwyr yr Effaith Tŷ Gwydyr.

Ganed Fourier yn Auxerre (yn awr yn département Yonne) yn fab i deiliwr. Collodd ei rieni erbyn cyrraedd naw oed, ond gyda chymorth Esgob Auxerre addysgwyd ef gan urdd y Benveniste. Bu a rhan yn y Chwyldro Ffrengig yn ei ardal ei hun, ac yn ddiweddarach aeth gyda Napoleon Bonaparte i'r Aifft.

Yn 1822 cyhoeddodd ei Théorie analytique de la chaleur, ac yn 1824 darganfu y gallai nwyon gynyddu tymheredd wyneb y ddaear.