Joseff o Arimathea

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Joseff o Arimathea gan Pietro Perugino. Darn o lun mwy.

Ymddengys Joseff o Arimathea yn y Testament Newydd fel y gŵr a roddodd ei feddrod ei hun ar gyfer claddu Iesu Grist wedi iddo gael ei groeshoelio. Roedd yn dod o ddinas Arimathea, ac i bob golwg yn ŵr cyfoethog; credir ei fod yn aelod o'r Sanhedrin.

Dywedir iddo fynd at Pontius Peilat, a ganiataodd ei gais am gorff Iesu, ac iddo ef a Nicodemus baratoi'r corff i'w gladdu. Ystyrir ef yn sant gan yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred. Ei ddydd gŵyl yw 17 Mawrth yn y gorllewin a 31 Gorffennaf yn y dwyrain.

Yn hwyr yn y 12fed ganrif, dechreuwyd cysylltu Joseff a'r gyfres o chwedlau oedd yn ymwneud a'r brenin Arthur. Ymddengys i hyn gychwyn yng ngwaith Robert de Boron, Joseph d'Arimathie, lle mae Joseff yn derbyn y Greal Santaidd gan weledigaeth o'r Iesu ac yn ei yrru gyda'i ddilynwyr i Ynys Brydain. Dywed fersiynau diweddarach i Joseff ei hun ddod i Brydain, a dod i Ynys Wydrin (Glastonbury).

Yn Gymraeg, Joseff yw arwr y nofel Yr Ogof gan T. Rowland Hughes (1945).