Jonah Jones

Oddi ar Wicipedia
Jonah Jones
Ganwyd17 Chwefror 1919 Edit this on Wikidata
Tyne a Wear Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 2004 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaethdylunydd graffig, cerflunydd Edit this on Wikidata
PriodJudith Maro Edit this on Wikidata

Cerflunydd arlunydd a nofelydd oedd Jonah Jones (17 Chwefror 1919 - 29 Tachwedd 2004). Cafodd ei eni yn Swydd Durham ond roedd yn byw yng Nghymru ers 1948 gan agor gweithdy yn Nhremadog. Roedd yn briod â’r awdures Judith Maro.

Roedd Jonah Jones yn gweithio mewn sawl cyfrwng. Torrodd llythrennau mewn llechen, cerfiodd mewn maen a chreodd penddelwau mewn efydd. Roedd hefyd yn artist gwydr lliw ac yn arlunydd mewn dyfrlliw. Dylanwadwyd ei waith gan ddelweddaeth Gristnogol, chwedlau y Mabinogi a thirwedd Cymru. Yn ogystal, ysgrifennodd ddwy nofel, arweinlyfr am lynnoedd gogledd Cymru, casgliad o ysgrifau a bywgraffiad y pensaer enwog Syr Clough Williams- Ellis.

Mae’n enwog am ei benddelwau efydd o Syr Clough, Bertrand Russell a John Cowper Powys, ei gofebion i Dylan Thomas a Lloyd George yn Abaty San Steffan, a hefyd ei gerfluniau ar adeilad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • A Tree Mai Fall (1980) - nofel
  • Zorn (1986) - nofel
  • The Lakes of North Wales (1983) - arweinlyfr
  • The Gallipoli Diary (1989) - ysgrifau
  • Clough Williams-Ellis: Architect of Portmeirion Seren Publishing, (1997) – bwygraffiad

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.