Jon Gower

Oddi ar Wicipedia
Jon Gower
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Mae Jon Gower (weithiau Jonathan Gower) sy'n wreiddiol o Lanelli yn awdur sy'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn ddarlledwr yn y ddwy iaith. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bu'n ohebydd Celfyddydau a Chyfryngau i'r BBC, ac mae wedi cynhyrchu nifer o raglenni Cymraeg a Saesneg i'r teledu a'r radio.[1]

Enillodd y wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2012 (£2,000) am y ffuglen orau sef y brif nofel Y Storïwr, a derbyniodd hefyd y Brif Wobr yn yr Adran Llyfrau Cymraeg. (£6,000). Mae'r nofel yn dilyn hanes Gwydion McGideon, bachgen ifanc sy'n meddu ar ddawn dweud arbennig, tra ei fod yn dilyn trywydd sy'n arwain at ei elyn pennaf.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Homeland, golygydd (Gomer, 1996)
  • Wales in our Own Image, cyd-olygydd (InBooks, 1999)
  • A Year in a Small County, golygydd (Gomer, 1999)
  • Llanelli (Seren, 2000)
  • Big Fish (Gwasg Carreg Gwalch, 2000)
  • An Island Called Smith (Gomer, 2001)
  • I Know Another Way: From Tintern to St David's, golygydd ; lluniau gan Paul Davies (Gomer, 2002)
  • A Long Mile (Cyngor Sir Gaerfyrddin, 2004)
  • Dala'r Llanw (Gomer, 2009)
  • Real Llanelli (Gomer, 2009)
  • Uncharted, addasiad o Dala'r Llanw gyda diwedd diwygiedig (Gomer, 2010)
  • Y Storïwr (Seren, 2011)
  • Wales at Water's Edge: A Coastal Journey (Gomer, 2012)
  • Too Cold for Snow (Parthian Books, 2012)
  • The Story of Wales (Ebury Press, 2013)
  • Breision (Gomer, 2013)
  • Gwalia Patagonia (Gomer, 2015)
  • Norte (Gomer, 2015)
  • Rebel Rebel (Y Lolfa, 2016)
  • Arwyr Cymru (Y Lolfa, 2018)
  • Y Düwch (Y Lolfa, 2018)

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • 2011 Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli
  • 2012 Llyfr Cymraeg y flwyddyn Y Storïwr

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan y Cyngor Prydeinig - Llenyddiaeth (Saesneg); adalwyd 20 Hydref 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-04. Cyrchwyd 2012-10-20.
  2. "Newyddion y BBC", Jon Gower yw awdur Llyfr Cymraeg y Flwyddyn (BBC), http://www.bbc.co.uk/newyddion/18819795, adalwyd 11/07/2012
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.