Johnny Cash

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Johnny Cash.

Canwr Americanaidd oedd John R. "Johnny" Cash (26 Chwefror, 1932 - 12 Medi, 2003) ac awdur, a elwir gan rai yn un o gerddorion mwyaf yr 20fed ganrif. Cafodd ei fagu yn Dyess, Arkansas, a gallai olrhain ei deulu yn ôl i'r Alban.

Roedd ganddo lais bâs-bariton unigryw ac roedd yn hoff o roi cyngherddau am ddim i garcharorion. Roedd rhai'n ei alw'n "The Man in Black" a chychwynai llawer o'i gyngherddau drwy ddweud, "Hello, I'm Johnny Cash."

Roedd llawer o'i ganeuon yn drist neu'n sôn am faddeuant, Cristnogaeth a phroblemau moesol. Ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae: I Walk the Line, Folsom Prison Blues, Ring of Fire, Get Rhythm a Man in Black. Roedd rhai o'i ganeuon yn llawn hiwmor, megis A Boy Named Sue.

Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.