John Wojtowicz
| John Wojtowicz | |
|---|---|
Wojtowicz yn ystod y lladrad banc ym 1972 |
|
| Ganwyd | 9 Mawrth 1945 Dinas Efrog Newydd, Efrog Newyd, UDA |
| Bu farw | 2 Ionawr 2006 (60 oed) Dinas Efrog Newydd, Efrog Newyd, UDA Canser |
| Yn enwog am | Ysbeilio banc |
| Priod | Carmen Bifulco (ysgarwyd) Elizabeth Eden (bu farw) |
| Plant | 2 |
Lleidr banc o Americanwr oedd John Stanley Wojtowicz (9 Mawrth 1945 - 2 Ionawr 2006) oedd yn ysbrydoliaeth i'r ffilm Dog Day Afternoon.[1]
Cynnwys |
Bywyd cynnar a phersonol [golygu]
Ganwyd Wojtowicz yn Ninas Efrog Newydd ym 1945 yn fab i fewnfudwyr Pwylaidd. Priododd ei wraig gyntaf, Carmen Bifulco, ym 1967, a chafodd dau blentyn cyn eu hysgariad ym 1969. Ym 1971 cyfarfu Wojtowicz â Ernest Aron mewn gŵyl Eidalaidd yn Ninas Efrog Newydd, a phriododd y ddau ar 4 Rhagfyr 1971 yn Greenwich Village.[2]
Lladrad banc [golygu]
Ar 22 Awst 1972, ceisiodd Wojtowicz, Salvatore Naturile, a Robert Westenberg i ysbeilio cangen o fanc Chase Manhattan ar gornel East Third Street ac Avenue P yn Gravesend, Brooklyn. Y bwriad oedd i ddefnyddio'r arian a ladratwyd i dalu am lawdriniaeth ailgyfeirio rhyw ar gyfer Ernest Aron.[2] Cadwodd Wojtowicz a Naturile saith o weithwyr y banc yn wystlon am 14 o oriau. Wnaeth Westernberg ffoi rhag yr olygfa cyn i'r ysbeiliad ddechrau pan welodd car heddlu ar y stryd. Roedd gan Wojtowicz ryw wybodaeth o sut mae banciau yn gweithio, gan yr oedd yn gyn-glerc banc. Mae'n debyg y wnaeth seilio ei gynllun ar olygfeydd o'r ffilm The Godfather, a welodd yn gynharach y diwrnod hwnna, ac aeth Al Pacino, seren The Godfather, ymlaen i bortreadu Wojtowicz yn Dog Day Afternoon. Arestiwyd Wojtowicz, ond cafodd Naturile ei ladd gan yr FBI yn ystod eiliadau olaf y digwyddiad.[3]
Ar ôl y lladrad [golygu]
Yn ôl Wojtowicz, cafodd ei gynnig fargen i bledio'n euog, a amharchwyd gan y llys, ac ar 23 Ebrill 1973 cafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd ym Mhenydfa Ffederal Lewisburg, a dreuliodd 10 mlynedd yno. Enillodd $7,500 trwy werthu'r hawliau ffilm i'w hanes a 1% o'i elw net, a defnyddiodd i gyllido llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw Ernest Aron, a newidiodd ei henw i Elizabeth Eden. Rhyddhawyd Wojtowicz o'r carchar ar 10 Ebrill 1987. Bu farw Elizabeth Eden o niwmonia o ganlyniad i AIDS ar 29 Medi 1987 yn Rochester pan oedd yn 41 mlwydd oed.[4] Bu farw Wojtowicz o ganser ar 2 Ionawr 2006.[5]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) John Wojtowicz in the Notable Names Database. Soylent Communications.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Ernest Aron Became Elizabeth Eden - AIDS Kills Woman Behind 'Dog Day'. Los Angeles Times (30 Medi 1987).
- ↑ (22 Medi 1972) The Boys in the Bank, Life, Cyfrol 73, Rhifyn 12 (yn Saesneg), tud. 66–74
- ↑ (Saesneg) Elizabeth Eden, Transsexual Who Figured in 1975 Movie. New York Times (1 Hydref 1987).
- ↑ Katz, Celeste (23 Ebrill 2006). 'Dog Day's' journey into legend: Robber, lover gone, but the flick is back. New York Daily News, t. 30.