John Williams (diwinydd)

Oddi ar Wicipedia
John Williams
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Bu farw4 Medi 1613 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathro Edit this on Wikidata
Swyddrheithor Edit this on Wikidata

Cleriwgr, athro ac awdur Cymreig oedd John Williams (bu farw 4 Medi 1613). Fe'i cofir yn bennaf fel prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen ac fel diwinydd. Roedd yn frodor o Sir Gaerfyrddin.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed John Williams ym mhlwyf Llansawel, Sir Gaerfyrddin, yn aelod o deulu lleol pur gefnog. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn 1594 graddiodd yn BD a derbyniodd reithoraeth Llandrinio yn Sir Drefaldwyn. Yn yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn "Margaret Professor" mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen; daliodd y swydd hyd ei farwolaeth. Fe'i apwyntwyd yn brif athro ar 17 Mai 1602[2] ac yn is-ganghellor yn 1604. Bu'n ddeon ym Mangor hefyd, o 1605 hyd ei farw yn 1613.[3][1]

YsgrifeNnodd lyfr diwinyddol yn yr iaith Ladin. Fe'i cofir hefyd fel cyhoeddwr un o lyfrau'r athronydd Seisnig Roger Bacon, sef y De retardandis senectutis accidentibus et sensibus confirmandis (1590).[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • De Christi Justitia et in regno spirituali ecclesiae pastorum officio (1597)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Y Bywgraffiadur Arlein
  2. John Le Neve (1716). Fasti Ecclesiæ Anglicanæ: Or, An Essay Towards Deducing a Regular Succession of All the Principal Dignitaries in Each Cathedral, Collegiate Church Or Chapel (now in Being) in Those Parts in Great Britain Called England and Wales... (yn Saesneg). J. Nutt: and sold by Henry Clements, at the Half-Moon, in St. Paul's Church-yard; Charles King at the Judge's Head in Westminster-Hall; and Edward Nutt, at the Middle-Temple Gate in Fleet-Street. t. 498.
  3. University of Oxford (1968). 1500-1714 (yn Saesneg). Kraus Reprint. t. 1647.