John Thomas (Siôn Wyn o Eifion)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd ac emynydd o Chwilog, Eifionydd oedd John Thomas (1786 - 8 Gorffennaf 1859), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Siôn Wyn o Eifion.

Ganed Siôn Wyn ym mhwlyf Chwilog yn 1786. Cafodd ddamwain yn fachgen naw oed a ddilynwyd o fewn tair blynedd gan gyfnod hir o waeledd a bu'n wael ei iechyd am weddill ei oes. Cafodd ei addysg yn ysgol Llanarmon lle daeth i adnabod David Owen (Dewi Wyn o Eifion).

Oherwydd ei iechyd bregus, caethiwid y bardd ifanc i'w wely am gyfnodau hir, ond derbynnai nifer o ymwelwyr o blith llenorion yr hen Sir Gaernarfon a darllenodd yn helaeth. Yn ogystal â Dewi Wyn, ei gyfaill am oes, daeth yn gyfaill i Ddafydd Ddu Eryri. Derbyniodd lawer o garedigrwydd oddi wrth teulu Nannau hefyd.

Cyfansoddodd gryn lawer o farddoniaeth, yn awdlau, pryddestau ac emynau, ond er iddo ennill gydnabyddiaeth gan ei gyd-lenorion nid enillodd wobr yn yr Eisteddfod. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith barddonol gan Robert Isaac Jones, Tremadog yn 1861, dwy flynedd ar ôl marwolaeth Siôn Wyn.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Siôn Wyn o Eifion, Gwaith Barddonol Siôn Wyn o Eifion (Tremadog, 1861). Cyfrol sy'n cynnwys cofiant i'r bardd gan ei nai William Jones (Bleddyn).

Cyfeiriadau[golygu]

  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922), tud. 50.