John Thomas, Pentrefoelas

Oddi ar Wicipedia
John Thomas, Pentrefoelas
FfugenwPentrefoelas Edit this on Wikidata
Ganwyd1742 Edit this on Wikidata
Bu farw1814 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw gweler John Thomas (gwahaniaethu)

Bardd Cymraeg oedd John Thomas neu John Thomas, Pentrefoelas (17421814). Canai yn null traddodiadol y bardd gwlad, sef mesurau'r canu rhydd Cymraeg wedi'u cynganeddu.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Brodor o blwyf Pentrefoelas yn yr hen Sir Ddinbych (Sir Conwy heddiw) oedd John Thomas, lle y'i ganed yn 1742. Cadwai fasnach, a gwasanaethai fel cofrestrydd plwyf Pentrefoelas.[1]

Roedd testunau ei gerddi yn cynnwys "Yr Hwsmon Diog a'r Cristion Diofal", sydd i'w gweld mewn sawl blodeugerdd Gymraeg o'r cyfnod, e.e. Yr Awenydd (Caernarfon, d.d. tua 1860?). Mae dylanwad cerddi Huw Morus yn amlwg yn ei waith. Bu farw yn 1814. Cyhoeddwyd ei weithiau barddonol o dan olygiaeth Caledfryn yn 1845.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, 1922).