John Talbot Dillwyn Llewellyn

Oddi ar Wicipedia
John Talbot Dillwyn Llewellyn
Ganwyd26 Mai 1836 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1927 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJohn Dillwyn Llewelyn Edit this on Wikidata
MamEmma Thomasina Llewelyn Edit this on Wikidata
PriodCaroline Julia Dillwyn-Llewellyn Edit this on Wikidata
PlantGwendoline Harriet Dillwyn-Llewelyn, Gladys Mary Dillwyn-Llewelyn, Willie Llewelyn, Charles Dillwyn-Venables-Llewelyn Edit this on Wikidata

Roedd Syr John Talbot Dillwyn-Llewellyn, Barwnig 1af (26 Mai 18366 Gorffennaf 1927) yn Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig a oedd yn nodedig am ei gysylltiadau â chwaraeon yng Nghymru.

Cefndir ac addysg[golygu | golygu cod]

Roedd Llewellyn yn fab i'r ffotograffydd a'r gwyddonydd John Dillwyn Llewellyn ac Emma Thomasina Talbot, merch ieuangaf Thomas Mansel Talbot a'r Fonesig Mary (née Fox Strangways) Pen-rhys, ac yn gefnder i William Henry Fox Talbot. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Roedd Llewellyn yn Uchel Siryf Morgannwg ym 1878 ac yn Faer Abertawe ym 1891.

Ym 1889 cafodd ei ethol yn un o aelodau cyntaf Cyngor Sir Forgannwg a chafodd ei ddyrchafu ar ei union yn henadur gan gael ei eil ethol fel henadur eto ym 1895. Gwnaed ef yn Farwnig, Penllergaer a Llangyfelach ym 1890.

Safodd Llywellyn fel ymgeisydd Ceidwadol yn isetholiad Gŵyr 1888. Roedd rhengoedd y Blaid Ryddfrydol wedi eu heffeithio gan ymgecru parthed dewis ymgeisydd, o'r herwydd llwyddodd Llywellyn i bolio'n dda gan gael ei drechu o drwch blewyn gan David Randell.

Wedi marwolaeth ei ewythr Lewis Llewelyn Dillwyn ym 1892 cafodd Llewellyn ei fabwysiadau fel ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholaeth Tref Abertawe ond cafodd ei drechu gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Robert John Dickson Burnie. Safodd yn yr un etholaeth yn Etholiad Cyffredinol 1895 gan gipio'r sedd a'i dal hyd 1900, pan gafodd ei drechu eto gan ymgeisydd Rhyddfrydol

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Roedd cysylltiadau Llewellyn a'r byd chwaraeon yn cynnwys chware fel capten Clwb Criced De Cymru. Ym 1885 fe lwyddodd i ddisodli Iarll Jersey fel llywydd Undeb Rygbi Cymru; swydd y byddai'n dal hyd 1906, pan gafodd ei ddisodli gan Horace Lyne. Dywedodd Lyne ei hun eu bod (URC) 'wedi bod yn hynod o ffodus o gael gŵr bonheddig fel Mr JTD Llewellyn i weithredu fel llywydd '.[1]

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Llewellyn ym 1861 a Caroline Julia, merch Syr Michael Hicks Beach, 8fed Barwnig. Priododd eu mab ieuengaf Charles aeres y teulu Venables gan ychwanegu'r cyfenw Venables at ei enw. Daeth yn aelod seneddol dros sir Faesyfed ac yn Uchel Siryf y sir honno.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Llewellyn yn 1927 a chafodd ei gladdu gyda'i wraig a wrth ymyl ei dad yn Eglwys Dewi Sant Penlle'r-gaer.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Smith (1980), pg 48.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert John Dickson Burnie
Aelod Seneddol Tref Abertawe
18951900
Olynydd:
George Newnes
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Herbert Lloyd
Uchel Siryf Morgannwg
1878-1879
Olynydd:
Richard Knight Prochard