John Strachan
Oddi ar Wicipedia
Ysgolhaig Albanaidd oedd John Strachan (1862 - 1907). Fel ieithydd ymddiddorai yn yr ieithoedd Celtaidd, Sansgrit a Hen Roeg.
Ganed Strachan yn nhref fechan Keith yn Ucheldiroedd yr Alban. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt a Jena. Daeth yn athro yng Ngholeg Owens ac ym Mhrifysgol Manceinion.[1]
Sefydlodd y cofnodolyn Ériu ar y cyd â'r athro Kuno Meyer. Ym maes astudiaethau Cymraeg Canol, roedd ei An Introduction to Early Welsh yn gyfrol arloesol am y cyfnod; fe'i cyhoeddwyd yn 1909, dwy flynedd ar ôl ei farwolaeth.
Cyhoeddiadau [golygu]
- (golygwyd gyda Whitley Stokes) Thesaurus Palaeohibernicus. Detholiad o destunau Hen Wyddeleg
- Old Irish Paradigms and Selections from the Old Irish Glosses (1904–05). Cafwyd argraffiad newydd wedi'i olygu gan Osborn Bergin.
- An Introduction to Early Welsh (Gwasg Prifysgol Manceinion, 1909). Astudiaeth arloesol.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Bernhard Maier. Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1997), tud. 254.
Dolenni allanol [golygu]
- Papurau Strachan, Prifysgol Manceinion.