John Stow

Oddi ar Wicipedia
John Stow
Cofeb John Stow yn Eglwys Sant Andreas Undershaft.
FfugenwRobert Seymour Edit this on Wikidata
Ganwyd1525 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 1605 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethLloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Croniclydd ac hynafiaethydd o Sais oedd John Stow (15256 Ebrill 1605).[1]

Ganed ef yn Llundain. Ar y cychwyn, teiliwr ydoedd wrth ei grefft, a fe'i derbynwyd yn aelod o Gwmni'r Teilwriaid Masnachol ym 1547. O ran ei ddiddordebau llenyddol, canolbwyntiodd yn gyntaf ar farddoniaeth Saesneg, cyn iddo ddechrau casglu ac adysgrifennu llawysgrifau oddeutu 1564, a chyflawni gweithiau hanesyddol ei hunan, y rhai cyntaf yn llên Lloegr i fod yn seiliedig ar astudiaeth systematig o gofnodion cyhoeddus.[2]

Atynnodd sylw'r awdurdodau ar amheuaeth o reciwsantiaeth, ac ym 1569 a 1570 fe'i cyhuddwyd o feddu ar lenyddiaeth Babyddol. Fe'i dygwyd o flaen y comisiwn eglwysig, ond ni chafodd gosb. Dywed iddo wario cymaint â £200 y flwyddyn ar lyfrau a llawysgrifau, a hynny dan nawdd Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a chyda'i bensiwn o'r Teilwriaid Masnachol. Codwyd corffddelw ohono gan ei weddw yn Eglwys Sant Andreas Undershaft, Stryd Leadenhall, Llundain, sydd yn goroesi o hyd.

Yn ogystal â chynorthwyo'r Archesgob Matthew Parker wrth olygu testunau hanesyddol, ei brif gyhoeddiadau oedd: The Workes of Geoffrey Chaucer (1561; argraffwyd ei nodiadau eraill ar bwnc Chaucer gan Thomas Speght ym 1598); Summarie of English Chronicles (1565), gwaith hanesyddol gwreiddiol; The Chronicles of England (1580), a ailenwyd yn ddiweddarach The Annales of England; yr ail argraffiad o Holinshed's Chronicles (1585–7); ac A Survey of London (1598 a 1603), gwaith gwerthfawr am ei wybodaeth fanwl o hanes a thraddodiadau Dinas Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) John Stow. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2022.
  2. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), tt. 951–2.