John Sam Jones

Oddi ar Wicipedia

Mae John Sam Jones (ganed 1956) yn athro, yn gyn-weinidog ac awdur[1] hoyw[2]. Mae e'n byw gyda ei bartner, Jupp, ers bron chwarter ganrif ac y maen nhw'n briod ers pedair blynedd. Astudiodd John ysgrifennu creadigol yng Nghaer. Roedd ei gasgliad o storïon byrion - ‘Welsh Boys Too ’, a gyhoeddwyd gan Parthian yn 2000 - yn enillydd ‘Honour Book’ yng Ngwobrau Llyfrau Stonewall Cymdeithas Lyfrgell America 2002. Mae'r rhan fwyaf o'r 'siaradwyr' yn y stori yn Gymry Cymraeg hoyw er mai yn Saesneg yr ysgrifennwyd hi. Cyhoeddwyd ‘Fishboys of Vernazza’a gan Parthian yn 2003, a chafodd ei rhoi ar restr fer Llyfr Cymreig y Flwyddyn. Cyhoeddodd ‘Gay Men’s Press’ ei nofel gyntaf, ‘With Angels and Furies’, yn 2005. Cyhoeddwyd ei ail nofel, ‘Crawling Through Thorns’ gan Parthian yn Hydref 2008. Mae wedi gweithio ym myd addysg ac ym myd iechyd cyhoeddus yn hwy na deg ar hugain o flynyddoedd ac mae’n byw gyda’i gymar sifil yn Abermaw, yn cadw Gwely a Brecwast.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Sam Jones & Jupp Korsten Adalwyd 04-05-2009
  2. Tystiolaeth ysgrifenedig gan John Sam Jones www.parliament.uk Adalwyd ar 04-05-2009


Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.