John Lamb

Oddi ar Wicipedia
John Lamb
Bu farwc. 1412 Edit this on Wikidata

Roedd John Lamb (bu farw tua 1412) yn asiant cudd yn nhâl llywodraeth Lloegr a lofruddiodd Owain Lawgoch yng Ngorffennaf 1378, tra'r oedd Owain yn gwarchae ar Mortagne-sur-mer.

Yn ôl y croniclydd Jean Froissart, roedd wedi cyrraedd Llydaw, gan ddweud ei fod wedi dod o Gymru gyda neges i Owain, a hebryngwyd ef i Mortagne. Roedd yn siarad Ffrangeg yn dda, meddai Froissart. Dywed rhai cofnodion mai Albanwr ydoedd, ond dywed Froissart iddo siarad "yn ei iaith ei hun" ag Owain, h.y. ymddengys fod y ddau'n siarad Cymraeg.

Enillodd ymddiriedaeth Owain, gan ddweud wrtho fod pobl Cymru yn ei gefnogi, ac am ei gael yn dywysog arnynt. Gwnaeth Owain ef yn siambrlen iddo. Ymddengys ei fod yn arferiad gan Owain gribo'i wallt yn y bore dan edrych ar gastell Mortagne. Un bore, roedd wedi gyrru Lamb i gyrchu ei grib gwallt, a phan ddychwelodd Lamb, trywanodd Owain, nad oedd yn gwisgo llurig ar y pryd. Ffôdd Lamb i gastell Mortagne, lle mynegodd ceidwad y castell, y Syndic de Latrau, ei ddirmyg o'i weithred.

Ceir cofnod yn Issue Roll Trysorlys Lloegr, wedi ei ddyddio 4 Rhagfyr 1378:

To John Lamb, an esquire from Scotland, because he lately killed Owynn de Gales, a rebel and enemy of the King in France ... £20.

Awgryma A.D. Carr mai hwn oedd y pris roedd y llywodraeth Seisnig wedi ei roi ar ben Owain. Talwyd £10 arall iddo yn 1379 am wasanaethau pellach i'r brenin, a chofnodir nifer o daliadau eraill iddo. Roedd wedi marw erbyn 13 Ionawr, 1413.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • A.D. Carr, Owen of Wales: The End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991)