John Gwilliam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 23 o gapiau dros Gymru fel wythwr, 13 ohonynt fel capten, yw John Albert Gwilliam (ganed 28 Chwefror 1923).

Ganed ef ym Mhontypridd ac aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt yn 1941. Ymunodd â'r lluoedd arfog fel swyddog mewn catrawd tanciau. Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Gaergrawnt ac yna dechreuodd yrfa fel athro. Bu'n dysgu yng Ngholeg Glenalmond i Perth 1949-52, Ysgol Bromsgrove School 1952-56, a Choleg Dulwich 1956-63, cyn dod yn brifathro Ysgol Penbedw o 1963 hyd 1988. Priododd Pegi Lloyd George yn 1949 a chawsant dri mab a merch. Ymddeolodd i Lanfairfechan, Gwynedd.

Chwaraeodd rygbi i Brifysgol Caergrawnt, Caerloyw, Edinburgh Wanderers, Casnewydd, Cymry Llundain, Llanelli a Wasps. Ystyrir ei gyfnod ef fel capten Cymru yn ail "oes aur" i'r tîm cenedlaethol[angen ffynhonnell]. Enillwyd y Gamp Lawn yn 1950 a 1952.