John Gotti

Oddi ar Wicipedia
John Gotti
GanwydJohn Joseph Gotti, Jr. Edit this on Wikidata
27 Hydref 1940 Edit this on Wikidata
Y Bronx Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mehefin 2002 Edit this on Wikidata
Springfield, Missouri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Franklin K. Lane High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgangster, extortionist Edit this on Wikidata
Swyddcapo dei capi, godfather Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
PlantVictoria Gotti, John A. Gotti Edit this on Wikidata

Gangster Americanaidd a phennaeth y teulu Mafia Gambino yn Ninas Efrog Newydd oedd John Joseph Gotti, Jr (27 Hydref 194010 Mehefin 2002). Gorchmynnodd fradlofruddiaeth Paul Castellano, pennaeth y teulu Gambino, ym 1985 gan adael Gotti i gipio'r arweinyddiaeth. Daeth yn enwog fel The Dapper Don am ei bersonoliaeth a'i ddillad, ac er gwaethaf ei droseddau roedd yn boblogaidd â'r cyhoedd yn Efrog Newydd, yn bennaf trigolion Queens.[1] Galwyd hefyd yn The Teflon Don am iddo osgoi ei gael yn euog mewn tri achos llys yn y 1980au, o ganlyniad i Gotti a'i gyd-droseddwyr yn ymyrryd â rheithwyr.

Llwyddodd yr FBI ac Heddlu Dinas Efrog Newydd i ddymchwel Gotti ar ddechrau'r 1990au. Cyhuddwyd o racetirio, llofruddiaeth, cynllwynio i lofruddio, usurio, gamblo anghyfreithlon, rhwystro cyfiawnder, llwgrwobrwyo, cribddail, ac osgoi treth.[2][3] Cafwyd yn euog o bob cyhuddiad ar 2 Ebrill 1992, ac ar 23 Mehefin 1992 dedfrydwyd i garchar am oes heb bosibilrwydd parôl a dirwy o $250,000.[3][4] Bu farw Gotti yn y carchar o ganser yr oesoffagws yn 2002.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) 'Dapper Don' John Gotti dead. CNN (11 Mehefin 2002). Adalwyd ar 19 Awst 2012.
  2. Davis, John H. Mafia Dynasty: The Rise and Fall of the Gambino Crime Family. Efrog Newydd: HarperCollins, 1993, tt.370–371
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) "UNITED STATES OF AMERICA, Appellee, v. FRANK LOCASCIO, and JOHN GOTTI, Defendants-Appellants". ispn.org. United States Court of Appeals for the Second Circuit. October 8, 1993. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-15. Cyrchwyd March 9, 2012.
  4. Davis, tt. 486–487