John Egerton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor o 1756 hyd 1768 oedd John Egerton (30 Tachwedd 1721 - 18 Mehefin 1787).

Roedd Egerton yn fab hynaf Henry Egerton, Esgob Henffordd, ac yn ŵyr i John Egerton, 3ydd Iarll Bridgewater. Bu'n Ddeon Henffordd dan ei dad cyn ei apwyntio'n Esgob Bangor. Yn 1768, trosglwyddwyd ef i fod yn Esgon Caerlwytgoed, yna yn 1771 i fod yn Esgob Durham, lle bu hyd ei farwolaeth.