John Dilwyn Llywelyn
Oddi ar Wicipedia
Ganwyd y botanegydd a'r ffotograffydd arloesol John Dilwyn Llywelyn (hefyd John Dillwyn Llewelyn) (12 Ionawr 1810 – Awst 1882) yn Abertawe.
Ffotograffiaeth [golygu]
Yn Ionawr 1839, yn dilyn darganfyddiadau pwysig gan William Henry Fox Talbot a Louis Jacques Mandé Daguerre ym myd ffotograffiaeth, bu John Dilwyn yn arbrofi cryn lawer. Y broses gyntaf iddo'i ymarfer oedd "daguerreotype" ond ni chredir i'r un llun oroesi'r blynyddoedd. Mae rhai o'i luniau o brosesau eraill wedi goroesi, fodd bynnag e.e. ceir sawl llun "cliché verre" a miloedd o luniau "calotype" a negyddion "collodion".
