John Charles Jones

Oddi ar Wicipedia
John Charles Jones
Ganwyd3 Mai 1904 Edit this on Wikidata
Llan-saint Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 1956 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad, cenhadwr Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Bangor Edit this on Wikidata

Clerigwr Cymreig a fu'n Esgob Bangor o 1949 hyd ei farwolaeth oedd John Charles Jones (3 Mai 1904 - 13 Hydref 1956). Ganed ef yn Llansaint, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin, Prifysgol Caerdydd a Choleg Wadham, Rhydychen.

Treuliodd flwyddyn yn Neuadd Wycliffe, Rhydychen, cyn cael ei ordeinio'n offeiriad yn 1930. Bu'n giwrad yn Llanelli hyd 1933 yna yn Aberystwyth gyda chyfrifoldeb dros y myfyrwyr. Aeth yn genhadwr yn 1934, gan weithio yn y Bishop Tucker Memorial College, Mukono, Wganda.

Dychwelodd i Gymru yn 1945 fel ficer Llanelli, a chysegrwyd ef yn Esgob Bangor yn 1949, y tro cyntaf i'r seremoni hon gael ei chynnal yn Gymraeg.