John Bryn Roberts

Oddi ar Wicipedia
John Bryn Roberts
John Bryn Roberts AS o Papur Pawb 1893
Ganwyd8 Ionawr 1843 Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 1931 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd John Bryn Roberts (8 Ionawr 184314 Ebrill 1931).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i Daniel Roberts, Llanddeiniolen ac Anne Jones, Plas Gwanas, Sir Feirionnydd. Er mai tenant ar staf y Faenol oedd ei dad ar y pryd, roedd y teulu yn weddol gefnog, ac yn ddiweddarach prynodd ei dad ei fferm ei hun yn Nhrefarthen ar Ynys Môn.

Addysgwyd ef gartref, yna yn Ysgol Ramadeg Cheltenham. Daeth yn gyfreithiwr, ac yn 1906 yn farnwr ym Morgannwg. Yn 1918, trosglwyddwyd ef i Gylchdaith Gogledd Cymru a Chaer, lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1921.

Yn etholiad cyffredinol 1885, enillodd sedd Eifion fel ymgeisydd Rhyddfrydol, gan guro'r Ceidwadwr H.J. Ellis Nanney. Daliodd y sedd hyd 1906, pan ymddiswyddodd oherwydd ei benodiad fel barnwr.

Ystyrid ef yn elyniaethus i Lloyd George a mudiad Cymru Fydd, er ei fod fel Lloyd George yn gwrthwynebu Rhyfel y Boer.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Jack Eaton Judge John Bryn Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru, 1989)
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Eifion
18851906
Olynydd:
Ellis William Davies